SL(6)147 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”) o 6.00 a.m. ar 28 Ionawr 2022 i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru (a elwir hefyd yn lefel rhybudd sero). Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys. Yr effaith yw:

·         nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff ymgynnull;

·         nad oes unrhyw derfynau penodol ar nifer y bobl a gaiff fynd i ddigwyddiadau ar unrhyw adeg;

·         nad oes unrhyw ofynion i unrhyw fathau penodol o fusnesau neu wasanaethau gau.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn dirymu:

·         rheoliad 18B o’r prif Reoliadau, sy’n darparu na chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw at ddibenion gwaith pan fo’n rhesymol ymarferol i’r person weithio gartref;

·         rheoliad 42A o’r prif Reoliadau, sy’n darparu ar gyfer gorfodi rheoliad 18B;

·         darpariaethau penodol yn rheoliad 16 o’r prif Reoliadau sy’n ymwneud â chaniatáu, neu ei gwneud yn ofynnol, i bersonau sydd fel arfer yn gweithio gartref, a darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am fangre reoleiddiedig sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau o dan do yn y fangre;

·         rheoliadau 16ZA ac 16ZB o’r prif Reoliadau, sy’n gwneud darpariaeth benodol ynghylch y mesurau y mae rhaid eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd trwyddedig a mangreoedd manwerthu.

Mae’r gofynion i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do hefyd yn parhau i fod yn gymwys, yn ogystal â’r cyfyngiadau a’r gofynion mewn rhannau eraill (ar wahân i’r darpariaethau a nodir uchod ac Atodlenni 1 i 4) o’r Prif Reoliadau. Fodd bynnag, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau i ddarparu nad yw’n ofynnol mwyach i berson wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn newid cymhwysedd ar gyfer bod yn bresennol mewn mangreoedd penodol o dan reoliad 16A o’r prif Reoliadau (a elwir yn ‘Bàs COVID’ yn gyffredinol) i gynnwys pobl sydd â thystiolaeth na allant gael eu brechu na chymryd prawf cymhwysol am y coronafeirws am resymau meddygol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth hefyd o’r farn eu bod yn gymesur.

Mae’r prif Reoliadau yn cyffwrdd ag Erthygl 5 (yr hawl i ryddid), Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol), Erthygl 9 (yr hawl i ryddid mynegiant, cydwybod a chrefydd), Erthygl 11 (yr hawl i ymgynnull ac ymgysylltu’n rhydd ag eraill) ac Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo).

Mae pob un o’r rhain yn hawliau amodol, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os oes angen gwneud hynny mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd. Rhaid cyfiawnhau’r holl gyfyngiadau a gofynion o’r fath ar y sail mai eu bwriad yw cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur. Rhaid hefyd cydbwyso unrhyw ymyrraeth â’r hawliau hyn â rhwymedigaethau cadarnhaol y wladwriaeth o dan Erthygl 2 (yr hawl i fywyd). Mae addasu’r cyfyngiadau a’r gofynion o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws.  Mae'n cydbwyso'r angen i gynnal ymateb priodol i'r bygythiad a achosir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy'n parhau'n gymesur â'r angen i leihau cyfradd trosglwyddiadau'r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Oherwydd y bygythiad difrifol ac uniongyrchol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd y cyhoedd brys, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, ymgysylltwyd ag amrywiol randdeiliaid.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol a ddarparodd Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, mewn llythyr, dyddiedig 27 Ionawr 2022.

Yn benodol, nodwn y paragraff canlynol yn y llythyr:

“Yn unol ag adran 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 rwy’n eich hysbysu y bydd yr offeryn statudol hwn yn dod i rym am 6.00 a.m. ar 28 Ionawr 2022, lai na 21 o ddiwrnodau ar ôl iddo gael ei osod. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

31 Ionawr 2022